Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-05-12 papur 2

Ymchwiliad i'r achos busnes dros un corff amgylcheddol – Tystiolaeth Gomisiwn Coedwigaeth Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CYFLWYNIAD GAN GOMISIWN COEDWIGAETH CYMRU I BWYLLGOR AMGYLCHEDD A CHYNALIADWYEDD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

 

Rhagymadrodd

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’r Achos Busnes o blaid y Corff Amgylcheddol Sengl. Mae ein tystiolaeth yn nodi ein rôl ni yn y gwaith o lunio’r Achos Busnes dros y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2010 a mis Tachwedd 2011.

 

Y Fframwaith Cyfreithiol Cyfredol

Mae Deddf Goedwigaeth 1967 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf Goedwigaeth 1979 yn nodi’r prif fframwaith deddfwriaethol y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithredu oddi mewn iddo. Maent hefyd yn pennu dyletswyddau a phwerau’r Comisiynwyr Coedwigaeth.

 

Mae Deddf Goedwigaeth 1967 yn rhoi pwerau i’r Comisiynwyr i reoli’r ystâd goedwigoedd genedlaethol ym mhob gwlad, i waredu’r pren sy’n cael ei gynhyrchu ar yr ystâd, i gaffael a gwaredu tir sy’n cael ei ddarparu iddynt gan Weinidogion Cymru, yr Alban neu Loegr, i ddarparu cymorth a chyngor i berchenogion coetiroedd, ac i ymgymryd ag ymchwil coedwigaeth, yn ogystal â rhai swyddogaethau eraill fel darparu ystadegau coedwigaeth.

 

O dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, y Comisiynwyr yw’r awdurdod cymwys o ran amddiffyn coed a phren mewn coedwigoedd rhag ymosodiadau gan blâu a chlefydau.

 

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cael ei ystyried yn gorff sy’n perthyn i’r Goron. Mae nifer o resymau am hyn, yn cynnwys:

 

·      ei fod yn cyflawni swyddogaethau llywodraeth;

·      mae’n gyfrifol am gynghori Gweinidogion ar faterion polisi coedwigaeth;

·      mae ganddo bwerau i lunio offerynnau statudol (e.e. mewn perthynas â thorri coed).

 

Mae’r Comisiwn hefyd yn cael ei ystyried yn adran o’r llywodraeth, er ei bod yn adran Anweinidogol o’r llywodraeth.

 

Ers datganoli, bu’n ofynnol i’r Comisiynwyr arfer eu swyddogaethau ar wahân yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac maent yn atebol, ac yn adrodd ar wahân i Lywodraeth Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Gweinidogion yr Alban.

 

Dan adran 2(3) o Ddeddf Goedwigaeth 1967, mae’r Comisiynwyr wedi dirprwyo cyfran sylweddol o’u cyfrifoldebau i’r Pwyllgorau Cenedlaethol ym mhob gwlad ac yma y cyflawnir y gwaith sydd wedi’i ddatganoli. Mae’r Pwyllgorau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol ac maent yn goruchwylio gwaith pob gwlad, gan wneud penderfyniadau ynglŷn â strategaethau a pholisïau coedwigaeth.

 

Ymwneud Comisiwn Coedwigaeth Cymru â Llunio Achos Busnes i’r Corff Amgylcheddol Sengl

Edrychodd yr adolygiad Cam 1 ar 6 opsiwn rhwng mis Gorffennaf 2010 a mis Ionawr 2011. Gwnaed hyn yn bennaf ar ffurf gwaith desg. Roedd Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru yn aelod o Fwrdd y Rhaglen.

 

Wedyn awdurdododd y Gweinidogion waith pellach i gael ei wneud ar yr opsiwn o sefydlu corff amgylcheddol sengl, a fyddai’n fras yn cwmpasu swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Daeth y gwaith hwn i ben ym mis Tachwedd 2011. Roedd Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru yn aelod o Fwrdd Rhaglen Cam 2. Cynrychiolwyd buddiannau coedwigaeth ar Grŵp Llywio’r Rhaglen gan ddau Gomisiynydd Coedwigaeth anweithredol. Mae Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol y Comisiwn yng Nghymru yn aelod o Banel Cyfeirio’r Gweinidog ynghylch y Corff Amgylcheddol Sengl/Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol.

 

Darparodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru adnoddau staff arbenigol hefyd i ddarparu data/gwybodaeth amserol a chynhwysfawr i weithrediaeth y Rhaglen a’r holl ffrydiau gwaith.

 

Hwylusodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid er mwyn cysylltu â’r rhai sydd â buddiannau ym maes coedwigaeth, fel rhan o broses yr achos busnes.

 

Nodweddwyd cyfraniad Comisiwn Coedwigaeth Cymru i broses yr achos busnes gan fewnbwn technegol arbenigol a herio adeiladol, yn enwedig o ran y risgiau posibl o safbwynt gwireddu canlyniadau coedwigaeth effeithlon ac effeithiol yng Nghymru. Roedd yr achos busnes yn cydnabod nifer sylweddol o’r risgiau hyn yn y fersiwn terfynol a gyflwynwyd i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ym mis Tachwedd 2011. Gofynnodd Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru am i’r risgiau ychwanegol isod gael eu cyfleu i’r Gweinidog a’u cofnodi yng Nghofnodion cyfarfod olaf Bwrdd y Rhaglen ar 18fed Tachwedd 2011.

 

 

 

 

 

 

Codwyd rhai o’r risgiau hyn gan Gadeirydd y Comisiwn Coedwigaeth, Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Coedwigaeth.

 

Ar sail yr Achos Busnes ac yn sgil cyfleu’r risgiau ychwanegol uchod, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn fodlon fod gan y Gweinidog gyngor llawn a chynhwysfawr ynglŷn â buddiannau coedwigaeth Llywodraeth Cymru, fel sail i’w benderfyniad.

 

Y Corff Amgylcheddol Sengl – Gweithredu

Yn union ar ôl penderfyniad y Gweinidog i fwrw ymlaen i sefydlu Corff Amgylcheddol Sengl ar 29ain Tachwedd 2011, cyhoeddodd Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru nodyn i’r holl staff yn cadarnhau fod yr amser trafod wedi dod i ben, fod cyfleoedd newydd cyffrous o’n blaen a bod angen ymrwymiad pendant i wneud i’r newidiadau ddigwydd yn effeithiol. Gweler Atodiad 1 am y fersiwn llawn o nodyn y Cyfarwyddwr.

 

Mae Cyfarwyddwr Comisiwn Coedwigaeth Cymru hefyd wedi cysylltu â chynrychiolwyr o’r sector busnesau coedwigaeth ers y penderfyniad i roi tawelwch meddwl ac arweiniad iddynt er mwyn cynnal hyder busnesau ac ystyried cyfleoedd newydd.

 

Mae’r Comisiwn yng Nghymru wedi darparu uwch staff i Raglen Gweithredu Corff Amgylcheddol Sengl Llywodraeth Cymru ers hynny i arwain rhai o’r prosiectau, ynghyd â staff technegol ychwanegol i ddarparu mewnbwn arbenigol. Bu rhaid gwneud addasiadau eraill i sicrhau parhad yn y busnes. Mae Cyfarwyddwr y Comisiwn yng Nghymru yn aelod o Fwrdd Rhaglen Llywodraethu a Chorff Amgylcheddol Sengl o dan Gomisiwn Coedwigaeth Prydain a fydd yn ymdrin â throsglwyddo gwasanaethau a rennir o’r Comisiwn Coedwigaeth i’r corff newydd yng Nghymru. Bydd y Rhaglen hon yn gweithio’n agos gyda Rhaglen Llywodraeth Cymru i Weithredu’r Corff Amgylcheddol Sengl.

 

 

Trefor Owen

Cyfarwyddwr, Comisiwn Coedwigaeth Cymru

13eg Ionawr 2012

 

 

 

 


Atodiad1

 

Neges i holl staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru gan Trefor Owen – 29 Tachwedd 2011.

Corff Amgylcheddol Sengl – Cyhoeddiad gan y Gweinidog

Heddiw, mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths AC, wedi cyhoeddi ei benderfyniad i greu corff amgylcheddol sengl newydd i Gymru.

 

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rhan o’r corff newydd hwn, ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd coedwigaeth yng Nghymru yn trosglwyddo o’r Comisiwn Coedwigaeth i’r corff Cymreig newydd a bydd y tri chorff amgylcheddol yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau fod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, yn awr ac i’r dyfodol.

 

Mae hyn yn cynrychioli cyfle gwirioneddol a chyffrous inni i gyfrannu’n harbenigedd, ein meddylfryd ‘rydyn ni’n gallu’ a’n hagwedd gadarnhaol i’r sefydliad newydd. Bydd ein craffter masnachol a’n sgiliau a’n profiad rheoli tir yn dyngedfennol i lwyddiant y dyfodol, yn sicrhau gwell canlyniadau i bobl a busnesau Cymru a’r amgylchedd wrth inni barhau i ddatblygu polisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru.

 

Ar ôl cyfnod datblygu hir, pan fu’r tri chorff a Llywodraeth Cymru yn paratoi cynllun busnes manwl a chadarn, mae’r trafod drosodd bellach a gallwn edrych tua’r dyfodol, gan ymrwymo’n llwyr i wneud i’r newid hwn ddigwydd yn effeithiol.

 

Bydd yr Achos Busnes a’r Crynodeb Gweithredol ar gael ar-lein yn ddiweddarach heddiw ar www.wales.gov.uk/SEB. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau’r flwyddyn nesaf i edrych ar swyddogaethau a threfn lywodraethu’r corff newydd, yna ceir ymgynghoriad pellach ynglŷn â’i ddyletswyddau a’i bwerau cyfreithiol, ond mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen i greu’r corff newydd a bydd y trawsnewid yn dechrau nawr.

 

Bydd hwn yn gyfnod heriol inni ond rydym yn ymrwymo i wneud i hyn weithio a byddwn yn chwarae rhan lawn yn ystod y trawsnewid. Mae Tîm Rhaglen y Corff Amgylcheddol Sengl yn ystyried datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith hwn a’r nod yw cael timau prosiect yn eu lle cyn y Nadolig.

 

Byddaf yn galw fy uwch dîm ynghyd yn fuan iawn a byddaf hefyd yn trefnu i weld pawb o’r staff drwy gyfres o sesiynau briffio. Gobeithiaf weld pob un ohonoch dros y dyddiau nesaf. Caiff manylion y lleoliadau, y diwrnodau a’r amserau eu cyhoeddi’n fuan.

 

Unwaith eto, diolch ichi am eich hamynedd, eich gwaith caled di-baid a’ch ymroddiad i gyflawni. Mae’r rhinweddau hyn yn rhan annatod o bwy ydym a beth yr ydym yn ei wneud a byddant yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

 

Trefor Owen

Cyfarwyddwr, Cymru